
Pennaeth Ymchwil
Helo, Gemma yw f’enw i, a fi yw Arweinydd Ymchwil a Gwerthuso TEC Cymru. Rwy’n rheoli tîm sy’n tyfu o gynorthwywyr ymchwil, dadansoddwyr data, cymrodorion clinigol a digidol, a myfyrwyr PhD, Meistr a meddygol, a myfyrwyr ar leoliad ar draws ystod eang o brosiectau ymchwil, gwerthuso a gwella ansawdd yn genedlaethol. Mae gennyf ddiddordeb byw yn y rhyngwyneb rhwng iechyd, gofal cymdeithasol, addysg ac arloesedd digidol. Rwyf hefyd ar hyn o bryd yn gwneud PhD mewn Cymdeithaseg ym Mhrifysgol Bryste lle rwyf yn ceisio gwella dyluniad a lledaeniad canllawiau Llywodraeth y DU ar Iechyd a Maeth mewn ysgolion ac yn y gymuned.

Arweinydd Clinigol
Mae’r Athro Alka Ahuja MBE, Seiciatrydd Plant a Phobl Ifanc Ymgynghorol gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Alka yw Arweinydd Clinigol Cenedlaethol Rhaglen Gofal wedi’i Gyfoethogi gan Dechnoleg Llywodraeth Cymru. Mae hefyd yn is-gadeirydd Cyfadran Plant a Phobl Ifanc Coleg Brenhinol y Seiciatryddion ac yn arweinydd Addysg Gyhoeddus Coleg Brenhinol y Seiciatryddion yng Nghymru. Mae hefyd yn Athro Gwadd gyda Phrifysgol De Cymru ac yn Athro Anrhydeddus ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae ganddi arbenigedd mewn methodoleg ymchwil ansoddol ac mae ei meysydd o ddiddordeb arbennig yn cynnwys anhwylderau niwroddatblygiadol gan gynnwys awtistiaeth ac Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd, cyfranogiad defnyddwyr a gofalwyr mewn gwasanaethau gofal iechyd a defnyddio technoleg ddigidol ym maes gofal iechyd.
Twitter: @AlkaSashin

Arweinydd Mabwysiadu Clinigol
Helo yw fy enw i yw Simon ac rwy'n Arweinydd Cenedlaethol TEC Cymru ar gyfer Mabwysiadu Clinigol a Newid Busnes. Rwy'n gyn-Nyrs Resbiradol ac wedi gweithio ers blynyddoedd lawer ers hynny ym maes trawsnewid ymarfer clinigol er budd cleifion a chlinigwyr. Fy ethos personol i yw y dylai newid fod yn Ddiogel, yn Effeithiol ac yn seiliedig ar Dystiolaeth. Rwy'n credu'n angerddol yn y gwaith rydym yn ei wneud yn TEC Cymru i ddod â buddion yr oes ddigidol i'n hymarfer. Mae pob maes ymarfer yn dod â'i uchafbwyntiau a’i heriau ei hun, ond ein nod yw rhoi cymorth drwy bob cam newid a mabwysiadu, er mwyn sicrhau ei fod yn gweithio i chi a'ch cleifion ar lefel adrannol.
Ymchwilwyr

Eleanor ydw i a fi yw cynorthwyydd ymchwil mwyaf newydd TEC Cymru’ - dechreuais weithio ddiwedd Ionawr 2022! Rwy’n gweithio mewn Ymgynghoriadau Fideo a Theleiechyd. Gwnes BSc mewn Seicoleg ac MSc mewn Seicoleg Glinigol ac Iechyd Meddwl ym Mhrifysgol Abertawe, a gwnaeth y ddau gwrs fy nghyflwyno i fyd ymchwil a’r affaith cadarnhaol y gall gael ar lefel y gofal mae pobl yn dderbyn. Ymysg fy meysydd diddordeb eraill mae anhwylderau bwyta ac iechyd meddwl, yn enwedig i rai yn eu harddegau, ac yr wyf yn gobeithio y bydd unrhyw waith y gwna’i ei gwblhau i TEC Cymru yn cyfrannu at ddefnydd llwyddiannus o dechnolegau i bob grŵp o gleifion!

Helo, Miarose ydw i. Yn ddiweddar, cwblheais BSc mewn Seicoleg ym Mhrifysgol Abertawe. Rwyf wedi bod yn gweithio fel cynorthwyydd ymchwil yn TEC Cymru ers Medi 2022. Mae fy ngradd wedi rhoi sgiliau helaeth i mi mewn ysgrifennu adroddiadau, a byddaf yn defnyddio hyn yn TEC Cymru. Rwy’n edrych ymlaen at weithio ar wahanol brosiectau a defnyddio’r sgiliau a ddysgais yn ystod fy ngradd.

Helo, Alice yw f’enw i. Yn ddiweddar, enillais BSc mewn Seicoleg ym Mhrifysgol Abertawe, a dechreuais weithio yma yn TEC Cymru ym Medi 2022. Yn ystod fy ngradd, datblygais ddealltwriaeth dda o ymddygiad dynol ac iechyd meddwl, gan ymddiddori’n arbennig mewn dulliau ac agweddau at wahanol fathau o driniaeth, o safbwynt y claf a’r gweithiwr clinigol. Rwyf yn frwd ynghylch ymchwil a dulliau seiliedig ar dystiolaeth mewn gofal iechyd, felly mae’n wych bod yn rhan o’r tîm ymchwil yma yn TEC Cymru ac yr wyf yn gobeithio cyfrannu at wneud gwahaniaeth!

Helo, Tyler ydw i. Mae gen i BSc mewn niwrowyddoniaeth ac rwy'n cwblhau fy MSc mewn gwyddoniaeth biofeddygol gan arbenigo mewn geneteg feddygol a genomeg. Dechreuais weithio i Tec Cymru fel cynorthwyydd ymchwil ym mis Hydref 22. Yn ystod fy ngraddau, datblygais i sgiliau cyfathrebu, datrys problemau, a dadansoddol gwerthfawr. Bydd y sgiliau hyn yn hanfodol ar gyfer y gwahanol brosiectau y byddaf yn gweithio arnynt ar gyfer Teleofal a Teleiechyd.

Helo, Vicky ydw i a dechreuais fel cynorthwyydd ymchwil i TEC Cymru ym mis Hydref 2022. Rwyf wedi cwblhau BSc mewn Seicoleg ac MSc mewn Anhwylderau Seicolegol Plant.
Mae'r ddwy radd wedi ysgogi fy niddordeb mewn ymchwil, gan roi’r sgiliau i fi ysgrifennu adroddiadau a dadansoddiadau data. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weithio ar wahanol brosiectau o fewn TEC Cymru.'

Helo, f’enw i yw Saiba. Rwyf ar hyn o bryd yn astudio’r gyfraith yn y brifysgol, ac yn gweithio’n rhan-amser fel cynorthwyydd ymchwil i TEC. Rwyf wir yn mwynhau gweld yr holl ddatblygiadau newydd mae tîm TEC yn gweithio arnynt a helpu i roi crynodebau ohonynt ac amlygu’r gwaith gwych sy’n cael ei wneud.

Helo Meg ydw i, rwy’n fyfyrwraig israddedig trydedd-blwyddyn ym Mhrifysgol Abertawe. Bûm yn gweithio fel cynorthwyydd ymchwil rhan-amser gyda TEC ers mis Ebrill 2021, lle’r ydw i yn mwynhau ysgrifennu dadansoddiadau ac adroddiadau

Hi, Megan ydw i a dw i'n fyfyrwraig bumed flwyddyn mewn Meddygaeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Dw i wedi gweithio yn rhan amser fel cynorthwyydd ymchwil i Tec Cymru ers Chwefror 2022. Rwy'n hoff iawn o'r gorgyffwrdd rhwng y swydd a'm gradd, gan fod gen i’r cyfle i weld effeithiau TEC yn ymarferol mewn gwirionedd.

Dadansoddwr Data ac Ymgynghorydd Ystadegau
Helo! F’enw i yw Jess a bûm yn gweithio gyda TEC Cymru ers mis Awst 2020 fel cynorthwyydd ymchwil a dadansoddwr/ymgynghorydd data. Fy rôl yw delio â phopeth yn ymwneud ag ystadegau a dadansoddi, a dyma rwy’n ymhyfrydu ynddo! Rwyf ar hyn o bryd yn cwblhau PhD gan arbenigo mewn seicoleg ansoddol ac arbrofol, a chyn hyn enillais MSc mewn Dulliau Ymchwil. Yn benodol, mae gen i ddiddordeb mewn gwahaniaethau unigol a sut y gallwn ddefnyddio rhifau i wella profiadau gofal iechyd y boblogaeth!