Skip to main content

Welsh Government logo
  • English
  • Twitter
  • Youtube
  • Facebook
  • LinkedIn
Tec Cymru
  • Twitter
  • Youtube
  • Facebook
  • LinkedIn
  • Iechyd Digidol
  • EIDC
  • TEC Cymru
  • Newyddion
  • Blog
  • Digwyddiadau
  • Prosiectau
  • Astudieathau Achos
Tec Cymru
  • Amdanom ni
  • Teleofal
  • Teleiechyd
  • Ymgynghoriadau Fideo
  • Ymchwil
  • Adnoddau
  • Hyfforddiant

Cyhoeddiadau

Delwedd ganolog baner
  1. Hafan
  2. TEC Cymru

Cyhoeddiadau TEC Cymru

2022

Ebrill

Tystiolaeth gynnar a gwersi a ddysgwyd o Wasanaeth Ymgynghoriadau Fideo  GIG Cymru

  • Johns, G., Khalil, S., Ogonovsky, M., Hesseling, M., Wardhaugh, A., Phipps, K., Williams, J., Whistance, B., & Ahuja, A.
  • Mae’r papur hwn yn rhoi trosolwg o set ddata a ddaliwyd gan ‘Wasanaeth YF GIG Cymru’. Mae’n dal safbwyntiau gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn unig (gan gynnwys gweithwyr clinigol, gweinyddwyr a rheolwyr) am ddefnyddio YF a hefyd y mae’n ymchwilio i wersi a ddysgwyd o’r broses weithredu genedlaethol yn ystod pandemig COVID-19.

GIG Cymru Ddigidol: dadansoddiad natur ddibynadwy seiliedig ar leisiau 22 978 o gleifion a gweithwyr clinigol ar fanteision, heriau a chynaliadwyedd ymgynghoriadau fideo

  • Johns, G., Whistance, B., Khalil, S. & Whistance, M.
  • Mae’r papur hwn yn rhoi dadansoddiad o adborth defnyddwyr gwasanaethau Gwasanaeth YF GIG Cymru o Fedi 2020 - Mawrth 2021.
2021

Mawrth

’ Gweithlu'r DU: Newidiadau i Weithio o Gartref yn ystod y Pandemig a Beth mae Hyn yn Olygu at y Dyfodol

Johns, G., Ahuja, S., Khalil, S., Ogonovsky, M., & Ahuja, A.

  • Deilliodd y thema ar ‘weithio o gartref’ o astudiaeth fwy gan TEC Cymru a symbylodd yr erthygl hon sydd yn cynnwys canllaw inffograffeg i unigolion sy’n gweithio o gartref. Mae’r erthygl hefyd yn manylu ar y manteision, heriau a risgiau sy’n gysylltiedig â gweithio o gartref.

 

Mai

Bellach ac Agos Ble Bynnag yr ydych: Rôl Ymgynghoriadau Fideo mewn Gofal Lliniarol

Wright, P., Johns, G., Khalil, S., & Ogonovsky, M.

  • Gorfododd covid-19 fesurau ymbellhau cymdeithasol llym, a achosodd i lawer deimlo’n unig ac ynysig. Felly dechreuodd gweithwyr clinigol o bob arbenigedd ddatblygu ffyrdd newydd o gyfathrebu â chleifion trwy lwyfannau fideo-gynadledda.

 

Mehefin

 Gwasanaeth Cenedlaethol Ymgynghori trwy Fideo – newid y ffordd yr ydym yn cyflwyno gofal yn y dyfodol 

  • Ahuja, A., Johns, G., Khalil, S., & Ogonovsky, M.
  • Seiliedig ar 10,000 ymateb i arolwg gan gleifion a gweithwyr proffesiynol, a thros 300 o gyfweliadau, mae’r papur hwn yn dangos fod ymgynghoriadau fideo yn gyson uchel o ran boddhad, addasrwydd clinigol ac yn cael ei dderbyn ar draws ystod eang o ddemograffeg cleifion ac arbenigeddau clinigol yng Nghymru

 

Medi

Nid yw mynediad at y GIG digidol yn llawer o broblem yng Nghymru

  • Johns, G., Khalil, S., Ogonovsky, M., Whistance, B., Williams, J., & Ahuja, A.
  • Sylwebaeth yn dangos sut y mae data a ddaliwyd gan TEC Cymru yn chwalu’r dybiaeth fod y “rhaniad digidol” yn broblem eang yng Nghymru.

 

Gwasanaethau iechyd meddwl o bell: arolwg dulliau-cymysg ac astudiaeth o gyfweliadau ar ddefnydd, gwerth, manteision a heriau gwasanaeth ymgynghoriadau fideo cenedlaethol yn GIG Cymru, y DU

  • Johns, G., Burhouse, A., Tan, J., John, O., Khalil, S., Williams, J.,& Ahuja, A.
  • Dadansoddi data penodol i iechyd meddwl  i ddangos defnydd, gwerth, manteision a heriau cyflwyno gwasanaethau iechyd meddwl o bell

 

Cysylltu a chysylltedd: darparu ymgynghoriadau fideo mewn cartrefi gofal yng Nghymru

  • Johns, G., Khalil, S., Williams, J., Lees, M., Hockey, L., Ogonovsky, M., & Ahuja, A.
  • Deall defnydd, gwerth, manteision a heriau  defnyddio YF mewn cartrefi gofal ledled Cymru

 

Rhagfyr

’Tawelu’r tryblith: safbwynt gweithwyr proffesiynol y GIG am ddefnyddio ymgynghoriadau fideo yn ystod COVID-19 yng Nghymru

Johns, G., Khalil, S., Ogonovsky, M., Hesseling, M., Wardhaugh, A., Phipps, K., Williams, J., Whistance, B., & Ahuja, A.

  • Gan ddefnyddio dyluniad astudiaeth arsylwadol, daliodd TEC Cymru ddata ar  ddefnydd, gwerth, manteision a heriau  defnyddio YF  gan weithwyr proffesiynol y GIG yng Nghymru yn ystod misoedd Awst a Medi 2020. Seilir y dystiolaeth hon ar fabwysiadu YF yn gyflym yng Nghymru, sydd yn debyg i’r hyn a ddigwyddodd mewn cenhedloedd eraill.

 

 Gweithio o Bell mewn Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc (CAMHS)

  • Williams, J., Wright, P., Johns, G., Moore, A., Bhardwaj, A., Dubicka, B., & Ahuja, A.
  • Y nod oedd dal canfyddiadau safbwyntiau seiciatryddion am weithio o bell mewn Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc (CAMHS).

 

Pandemig COVID-19 a’i Effeithiau ar yr Amgylchedd. Lleisiau Pobl Ifanc yng Nghymru

  • Johns, G., Khalil, S., Ahuja, S., Johns, E., Ahuja, A., & Ogonovsky, M.
  • Rhannodd ein cynrychiolwyr ifanc TEC Cymru arsylwadau y gellid eu cymharu ar effeithiau amgylcheddol â rhai arbenigwyr byd-eang, gan gyflwyno dadl gytbwys oedd yn adfyfyrio ar effeithiau amgylcheddol cadarnhaol a negyddol y pandemig.
2020

Ionawr

 Y 10,000 Ymateb Cyntaf – Diwedd yr Adborth am Ymgynghoriadau Fideo gan Gleifion a Gweithwyr Proffesiynol am ‘Ddefnydd a Gwerth’. Boddhad, Cynaliadwyedd a Derbynioldeb mewn Gofal Sylfaenol, Eilaidd a Chymunedol yn GIG Cymru yn ystod Pandemig  COVID-19

  • Johns, G., Khalil, S., Ogonovsky, M., Hesseling, M., Wardhaugh, A., Phipps, K., Wright, P., Williams, J., & Ahuja, A.
  • Cyflwynir ‘diwedd byw’ arolygon ymgynghori gan gleifion a gweithwyr proffesiynol yn y papur hwn i ddangos darlun cenedlaethol o YF o’r pandemig. Mae’r data o 10,401 o gyfranogwyr a gymerodd ran yn yr ymchwil yn dangos fod YF yn gyffredinol wedi cael derbyniad da gan gleifion a gweithwyr proffesiynol yng Nghymru,  gyda lefelau uchel o foddhad ac addasrwydd.

 

Mehefin

Canllaw Gweledol Cam-Wrth-Gam i Weithwyr Clinigol ar Ddefnyddio Ymgynghoriadau Fideo mewn gwasanaethau Iechyd Meddwl: Enghreifftiau gan y GIG o Arferion mewn Amser Gwirioneddol ar Adegau o Gyflwyno Gofal Iechyd mewn Amseroedd Normal ac yn Ystod y Pandemig

  • Johns, G., Tan, J., Burhouse, A., Ogonovsky, M., Rees, C., & Ahuja, A.
  • Canllaw gweledol syml cam-wrth-gam ar ddefnyddio teleseiciatreg trwy ddefnydd o bell o ymgynghoriadau fideo mewn gwasanaethau iechyd meddwl.

 

Tachwedd

Ymgynghoriadau fideo yn cyfrannu at ofal iechyd carbon niwtral

  • Johns, G., Khalil, S., Ogonovsky, M., & Ahuja, A.
  •  Erthygl yn darlunio manteision i’r amgylchedd a ddeilliodd o arbed teithio gan gleifion a gweithwyr clinigol mewn gofal iechyd yng Nghymru.
Welsh Government logo
  • Iechyd Digidol
  • EIDC
  • TEC Cymru
  • Newyddion
  • Blog
  • Digwyddiadau
  • Prosiectau
  • Astudieathau Achos
Tec Cymru
Llawr 1, Block A
Ty Mamhilad,
Parc Mamhilad,
NP4 0YP

Rhif ffôn : 01495 765072

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg

E-bost : teccymru@wales.nhs.uk
  • Twitter
  • Youtube
  • Facebook
  • LinkedIn
  • Hygyrchedd
  • Polisi Iaith Gymraeg
  • Telerau
  • Preifatrwydd
  • Cwcis
  • Sitemap
© 2023 EIDC