Mae gwasanaeth Ymgynghoriad Fideo GIG Cymru yn gadael i chi gynnig ymgynghoriadau fideo diogel i gleifion. Y nod yw helpu i arbed amser, cadw pobl yn ddiogel a rhoi ffordd arall i chi gyflwyno gofal i gleifion.
I ddefnyddio ymgynghoriadau fideo, gofynnir i chi fynychu sesiwn hyfforddi i fynd â chi drwy’r gwasanaeth a gweld sut mae’n gweithio. Archebwch eich sesiwn hyfforddi yma.