Uwchraddio Canolfan Derbyn Larymau Teleofal Digidol
Ledled y DU, mae'r dirwedd Teleofal wedi aros heb newid i raddau helaeth am ddegawdau, gyda'r rhan fwyaf o wasanaethau a phrosiectau yn canolbwyntio’n bennaf ar gyfarpar. Mae'r gwaith mudo sydd ar ddod i gyfarpar digidol erbyn 2025 yn darparu TEC (Iechyd Digidol) Cymru gyda chyfle i drawsnewid tirwedd Teleofal. Yr uchelgais yw defnyddio'r prosiect hwn i ddeall a datblygu dull o gyflwyno ymhellach ledled Cymru.
Cyngor Bro Morgannwg oedd y cyntaf i gyhoeddi y byddant yn uwchraddio eu Canolfan Derbyn Larymau o analog i Ganolfan Derbyn Larymau digidol SaaS. Fel y Ganolfan Derbyn Larymau lleiaf yng Nghymru, mae'r prosiect yn rhoi cipolwg gwerthfawr i TEC Cymru ar y cyfleoedd a'r peryglon o fudo digidol, yn ogystal â llywio ein gwaith o ddatblygu Strategaeth fudo enghreifftiol y gellir ei defnyddio i gynorthwyo Canolfannau Derbyn Larymau ymhellach i gwblhau eu proses o fudo i wasanaeth digidol ar raddfa fwy.
Nodau'r Prosiect
Prif nod y prosiect yw sicrhau y gall gwasanaeth teleofal y Fro dderbyn galwadau drwy Internet Protocol (IP). Gan y disgwylir i’r rhwydwaith analog ddod i ben yn 2025, a gyda’r gwaith o uwchraddio offer analog yn y cartref (ffonau llinell dir) sydd eisoes ar waith ledled Cymru o bryd i'w gilydd, mae angen cefnogi defnyddwyr gwasanaethau teleofal sy'n agored i niwed nad ydynt yn ymwybodol o'r effaith sydd ar ddod.
Y tu hwnt i hyn, y nod arall yw sefydlu 4 Prosiect o'r enw 'Tu Hwnt i Ddigidol', sy'n canolbwyntio ar sicrhau nad yw'r prosiect yn uwchraddio Canolfan Derbyn Larymau Teleofal i system debyg, er mwyn manteisio i'r eithaf ar y posibiliadau a ddaw yn sgil cysylltedd ac ymarferoldeb digidol i wasanaethau teleofal Cymru. Dyma'r prosiectau:
- Taith Dinasyddion
- Setiau Data Teleofal Gofynnol
- Dangosfwrdd Gwybodaeth Busnes
- Cofnod Teleofal Cyffredin Cenedlaethol
- Bro Morgannwg
Ionawr 2022
Chwefror 2022
Gorffenaf 2022
- Datrysiad teleofal digidol wedi'i ddiogelu at y dyfodol
- Symud tuag at Teleofal fel gwasanaeth wedi'i gaffael yn hytrach na system
- Datrysiad cwmwl sy'n gofyn am lai o newidiadau seilwaith
- Gwasanaeth digidol mwy effeithlon a gwell
- System casglu data ddi-dor
- Trefniadau adfer ar ôl trychineb sy'n seiliedig ar gyflenwyr
- Cyn lleied o darfu â phosibl ar brosesau gweithredol presennol
Bydd y prosiect hwn yn cael ei gwblhau fel yr amlinellir isod.
- Adolygu dyfeisiau cyn mudo
- Cynllun Mudo
- Cynllun Profi
- Porth Rheoli Dyfeisiau