Gwasanaeth Technoleg Gynorthwyol, Hyfforddwyr Technoleg
Roedd y Gwasanaeth Hyfforddwyr Technoleg yn wasanaeth am ddim ar gyfer pobl hŷn, gofalwyr a phobl ag anableddau dysgu oedd yn byw yn Nhorfaen. Roedd y gwasanaeth yn brosiect peilot a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru, gyda’r nod o annog pobl yn Nhorfaen i gynyddu eu defnydd o dechnoleg cymaint â phosibl.
Roedd y gwasanaeth yn cael ei gynnig fel sesiynau cymorth un-i-un a grŵp, gan roi cyngor/cymorth ynghylch:
- Nodi technoleg sy'n gweddu orau i anghenion y defnyddiwr
- Gosod offer newydd
- Defnyddio technoleg
Roedd y gwasanaeth Hyfforddwyr Technoleg hefyd yn mynd i grwpiau cymunedol a digwyddiadau dros dro i hyrwyddo'r defnydd o dechnoleg yn Nhorfaen.
Roedd yn defnyddio gwahanol dechnolegau: darparwyd rhai trwy'r gwasanaeth Technoleg Gynorthwyol a phrynwyd eraill yn breifat gan gyfranogwyr yn y prosiect.
Nod y Prosiect
- Ceisio atal unigrwydd ac allgau cymdeithasol trwy ddysgu trigolion sut i ddefnyddio technolegau CLYFAR newydd yn y cartrefi.
- Gwella hyder pobl wrth ddefnyddio gliniaduron, cyfrifiaduron llechen, ffonau clyfar a thechnoleg GLYFAR (Alexa, Google Home).
- Gwella ansawdd bywyd a chynyddu ymdeimlad o les ymhlith cyfranogwyr.
- Sicrhau bod trigolion yn gallu byw'n fwy annibynnol o fewn amgylchedd eu cartrefi a galluogi mwy o annibyniaeth.
- Tor-faen
- Llywodraeth Cymru
- Torfaen Gofal Cymdeithasol a Thai
Awst 2020
Erbyn mis Awst 2020, roedd y Gwasanaeth Hyfforddwyr Technoleg wedi cefnogi 36 o bobl i fynd ar-lein; sgwrsio ar-lein; gwrando ar gerddoriaeth; anfon e-byst; gosod dyfeisiau Alexa; newid darparwr ffôn a band eang; gwylio'r teledu dal i fyny; astudio'r Beibl; ac anfon neges destun, ymhlith pethau eraill.
Hydref 2019
Ym mis Hydref 2019, cyhoeddwyd y gwasanaeth Hyfforddwyr Technoleg yn gyhoeddus a hysbysebwyd bod swyddog ar gael i helpu unigolion a oedd yn dymuno cymryd rhan yn y prosiect.
Gorffennaf 2019
Daeth o hyd i her gynnar wrth geisio recriwtio pobl i’r rôl er mwyn cyflawni'r prosiect. Cwblhawyd y broses recriwtio a llenwyd y swyddi ym mis Gorffennaf 2019.
Llwyddodd y prosiect i alluogi nifer o bobl, yn enwedig y rheiny a oedd yn hŷn ac yn llai cyfarwydd â thechnoleg GLYFAR, i'w defnyddio. Yn gyffredinol, roedd yr adborth gan y cyfranogwyr yn gadarnhaol.
Dywedodd yr Aelod Gweithredol dros Wasanaethau Oedolion a Thai, y Cynghorydd David Daniels,
"Mae'r Gwasanaeth Hyfforddwyr Technoleg yn wasanaeth gwych sy'n cynnig cyfle i bobl Torfaen ddod yn fwy annibynnol trwy ddefnyddio technoleg.
Fel y gwelsom trwy gydol y pandemig, gall technoleg gynnig ffordd amgen o siopa, cael help neu gyngor, ac - yn bwysicaf oll drwy gydol y cyfnodau clo - gall helpu i ddod â ni i gyd at ein gilydd.
Mae'r gwasanaeth wedi gwneud gwahaniaeth mawr i lawer o drigolion trwy gydol y cyfnodau clo, lle maent wedi gallu derbyn cymorth dros y ffôn ac ar-lein i'w helpu i gael mynediad i wasanaethau ar-lein hanfodol a gallu cysylltu ag aelodau o’r teulu a ffrindiau."
Roedd angen cymorth ar Mrs Worthington, 93 oed, sy'n byw yng Nghwmbrân, i ddefnyddio ei chyfrifiadur llechen ychydig cyn i'r cyfnod clo cyntaf ddechrau. Dywedodd,
"Mae'r gwasanaeth wedi newid fy mywyd yn ystod y cyfnodau clo gan fy mod yn teimlo fy mod yn dal mewn cysylltiad â'r byd y tu allan. Mae'r gwasanaeth Hyfforddwyr Technoleg wedi dysgu cymaint i mi mewn cyfnod byr iawn ac mae wedi bod yn fuddiol iawn. Mae fy nheulu wedi synnu sut rwy'n gwybod cymaint!"