Fflatiau Cariad a Darparu Gofal a Alluogir gan Dechnoleg
Drwy’r Cynllun Cariad ym Mlaenau Gwent, datblygwyd wyth uned gofal canolraddol ar draws Cartrefi Gofal, Gofal Ychwanegol a darpariaeth Tai Gwarchod. Mae fflatiau Cariad yn rhan o gynllun gofal canolraddol sy'n cynnig llety dros dro i bobl hŷn gyda chymorth i'w hatal rhag gorfod mynd i'r ysbyty a’u helpu i gael eu rhyddhau'n gyflymach hefyd fel nad ydynt yn gorfod aros yn yr ysbyty yn ddiangen.
Roedd y prosiect yn hyrwyddo gofal a alluogir gan dechnoleg o fewn pum fflat Cariad, a chafodd system awtomeiddio yn y cartref ei gosod hefyd yn nau o'r rhain. Nod y prosiect oedd cynnig gofal a alluogir gan dechnoleg i bobl sy’n dioddef o godymau, pobl y mae dementia yn effeithio arnynt, a phobl â namau gwybyddol. Cafodd yr ystod o dechnolegau cynorthwyol newydd o fewn cwmpas y prosiect eu cynllunio i helpu pobl hŷn i fyw'n ddiogel yn eu cartrefi eu hunain am gyfnod hwy.
Yn fflatiau gofal canolraddol CARIAD, gallai pobl gael eu hasesu i ganfod pa gymorth sydd ei angen arnynt i'w galluogi i ddychwelyd i'w cartrefi eu hunain. Gallai hyn gynnwys cymhorthion ac addasiadau, rhaglenni ail-alluogi neu ofal gan asiantaeth gofal cartref.
Ymhlith y dechnoleg a ddefnyddiwyd yn y fflatiau roedd teclyn cau ffenestri, llenni a drysau’n awtomatig, system intercom, dyfeisiau rheoli is-goch, monitro gweithgarwch/anweithgarwch, synwyryddion mwg/CO/llifogydd, My Homehelper a systemau olrhain. Defnyddiwyd System Canary (monitro gweithgarwch/anweithgarwch) a system olrhain Mindme hefyd. Daeth y prosiect o dan Strategaeth Byw'n Annibynnol Cyngor Blaenau Gwent a derbyniodd arian gan Gronfa Gofal Integredig Llywodraeth Cymru. Roedd nifer o bartneriaid yn cymryd rhan, hefyd.
Nod y Prosiect
- Lleihau nifer y bobl sydd angen lleoliadau hirdymor mewn cartrefi gofal
- Lleihau derbyniadau diangen i'r ysbyty
- Lleihau nifer y bobl sydd angen ymyriadau gofal cymdeithasol tymor hwy
- Cynyddu nifer y bobl sy'n byw'n annibynnol yn y gymuned
- Cyfoethogi’r wybodaeth am anghenion pobl sy'n defnyddio'r gwasanaeth ar hyn o bryd ac yn y dyfodol
Dywedodd Rupert Lawrence, Pennaeth Teleofal Swydd Gaerwrangon:
"Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio gyda Chyngor Blaenau Gwent ar y fenter gyffrous hon i dynnu sylw at fanteision technolegau Cartref Clyfar a thechnolegau cynorthwyol. Bydd ein dull cydweithredol yn cynnwys gwerthuso canlyniadau drwy gydol y prosiect a dangos sut y gall dull modern o ymdrin â Gofal a Alluogir gan Dechnoleg (TEC) wella bywydau pobl, helpu i hwyluso gwell trefniadau gofal ar ôl rhyddhau cleifion o'r ysbyty a sut y gellir defnyddio gofal a alluogir gan dechnoleg yn rhagweithiol i helpu pobl sy'n byw gyda dementia ac sydd mewn perygl o gwympo yn fwy effeithiol. Mae defnyddio technoleg fel rhan allweddol o flaen-strategaethau ar gyfer byw’n annibynnol yn hanfodol er mwyn goresgyn yr heriau sy'n wynebu Iechyd a Gofal Cymdeithasol."
- Blaenau Gwent
- Teleofal Swydd Gaerwrangon
- Gwasanaethau Cymdeithasol
- Cymdeithas Tai Unedig Cymru
- Linc Cymru
- Cronfa Gofal Integredig Llywodraeth Cymru
2019
Gwahoddwyd preswylwyr a'u teuluoedd yn fuan wedi hynny i gael gwybod mwy am yr offer a sut y gall ddiwallu eu hanghenion i fyw'n annibynnol.
Gorffennaf 2019
Ym mis Gorffennaf 2019, gwahoddwyd gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol i fflatiau mewn dau gynllun tai gofal ychwanegol yn Nant-y-glo a Glyn Ebwy i gael golwg ar y dechnoleg ddiweddaraf sydd ar gael a dysgu sut mae'n gweithio.