Darparu Gwasanaethau PrEP a Chanlyniadau yn dilyn Covid

teccymru
Step complete
Step complete
Step complete

Mae cyffuriau Proffylacsis Cyn-gysylltiad (PrEP) ar gyfer partneriaid pobl HIV positif wedi bod ar gael ar y GIG ers 2018.  Fodd bynnag, dim ond 50-60% o bobl ar draws y byd fydd yn dod yn ôl neu drefnu apwyntiad dilynol. Gall hyn fod oherwydd efallai nad ydynt ei angen mwyach gan fod eu hamgylchiadau wedi newid, gallant fod yn sengl neu mewn perthynas ag un person. Hefyd, gallai rhai betruso neu wrthod dod ymlaen. Ein nod yw normaleiddio PrEP yn yr un modd â’r bilsen atal cenhedlu, ac felly distigmateiddio ei ddefnydd.

 

Mae'r rhan fwyaf o wasanaethau iechyd rhywiol yn dibynnu ar gleifion yn cysylltu â'r gwasanaeth eu hunain i gael cyflenwadau pellach o PrEP. Yn ystod y pandemig Covid doedd llawer o bobl ddim yn cysylltu gyda'u gwasanaeth iechyd rhywiol, ac felly’n rhoi'r gorau i ddefnyddio PrEP yn sgil llai o gyswllt â phobl. Ond roedd pryder pan ddychwelodd y lefelau cyswllt fod pobl yn cael eu rhoi mewn perygl.

 

Cyn Covid roedd gwasanaeth PrEP Caerdydd yn cael ei ddarparu fel clinig wyneb yn wyneb gydag apwyntiadau wedi'u trefnu. Roedd mwy o alw na’r cyflenwad ac roedd rhestr aros o dros 12 mis i ymuno â'r gwasanaeth, gyda 115 o bobl yn aros ym mis Mawrth 2020.

 

Er mwyn addasu i’r Pandemig COVID 19, datblygodd tîm Caerdydd ffordd newydd o weithio: -

 

  1. Ffonion nhw gleifion oedd wedi cymryd PrEP yn flaenorol ond a oedd wedi rhoi’r gorau i’w gymryd, i ofyn a oedd angen iddynt ddechrau eto i gynnal iechyd da.
  2. Sefydlon nhw fynediad ar gyfer yr holl wasanaeth galw heibio i gleifion PrEP bob nos Fawrth drwy blatfform ymgynghori fideo Attend Anywhere.

 

Felly, cafodd cleifion y dewis o gael eu gweld drwy apwyntiadau ffôn neu drwy apwyntiadau fideo.

 

Roedden nhw hefyd yn gweithio ochr yn ochr â Cymru Chwareus (ICC) i leihau'r cynnydd mewn cyfnod y presgripsiynau rhwng ymgyngoriadau. Dechreuodd Cymru Chwareus (ICC) becynnau profion drwy’r post ar gyfer heintiau a drosglwyddir yn rhywiol, HIV ac eGFR a monitro creatinin.

 

Wrth i wasanaethau ddychwelyd i’r arfer bron, gall y claf ddewis cael apwyntiad wyneb yn wyneb o hyd, ond bellach mae'r dewis o ymgyngoriadau ffôn neu fideo hefyd.

Nodau’r Prosiect

Nod y prosiect oedd gwerthuso a oedd y model cyflenwi PrEP ar ôl COVID yn bodloni safonau canllawiau BASHH BHIVA 2018-PrEP-Guidelines.pdf (bhiva.org) o gymharu ag ansawdd y model cyflenwi cyn COVID. Byddai'r canlyniadau'n cael eu defnyddio er mwyn parhau i wella a datblygu’r gwasanaeth.

 

Y disgwyliadau oedd y byddai'r ffordd newydd hon o weithio yn sicrhau'r manteision canlynol:

 

  • Lleihau amser aros ac oedi a allai fod yn niweidiol
  • Osgoi niwed i gleifion
  • Osgoi gwastraff
  • Darparu gwasanaethau i'r rhai sydd eu hangen
  • Darparu gwasanaeth teg a diduedd
  • Parchu ac ymateb i ddewisiadau cleifion

 

Testunau
Gwerthuso Ymgynghori Fideo
Bwrdd Iechyd
  • Cardiff and Vale University Health Board
Partneriaid / Ffynonellau Cyllid

GIG Cymru

Cymru Chwareus (ICC) https://www.cymruchwareus.org       

Darren Cousins - darren.cousins@wales.nhs.uk

Dyddiad dechrau
Dyddiad Cwblhau
  • Adroddiad Prosiect Llawn
  • Gwersi a Ddysgwyd
  • Canlyniadau
  • Allbynnau

Gall fod budd iechyd cyhoeddus i sicrhau bod defnyddwyr PrEP yn cael eu monitro’n weithredol ar ôl darpariaeth PrEP i sicrhau bod y rhai sydd â'r angen mwyaf yn parhau i gael mynediad at y strategaeth atal HIV biofeddygol hon. Mae gwasanaethau PrEP Caerdydd yn parhau i wella’n ddiwylliannol felly maen nhw'n edrych a gweld trwy’r amser sut y gallan nhw wella a datblygu’r gwasanaeth i ateb anghenion y boblogaeth ac felly'n gweithio ochr yn ochr â Gwasanaeth Rhywedd Cymru, GCCaF (Gwasanaeth Cynhwysiant Caerdydd a'r Fro) a Chynllun Gweithredu HIV Cymru i helpu gyda hygyrchedd PrEP.

  • Mae cael gwasanaeth digidol yn ei gwneud hi'n haws i gleifion ymgysylltu gan roi mwy o hygyrchedd.
  • Mae sesiwn galw heibio rithwir reolaidd wedi helpu i rymuso cleifion wrth gymryd rheolaeth dros eu hiechyd.
  • Lleihau’r amser i dderbyn PrEP. Fe allai gymryd hyd at flwyddyn cyn Covid. Nawr mae’n cymryd pythefnos drwy'r gwasanaeth digidol. Mae'r gostyngiad hwn yn hanfodol wrth helpu i leihau'r siawns o gael HIV.
  • Oherwydd bod y gwasanaeth digidol wedi cychwyn ar gais cleifion, mae nifer y bobl heb fynychu yn sero. Felly, nid yw amser clinigwr yn cael ei wastraffu. Ni fyddai cleifion bob amser yn mynychu yn ystod apwyntiadau wyneb yn wyneb o’r blaen.
  • Roedd 250 o bobl yn cael eu gweld bob blwyddyn cyn Covid. Erbyn hyn mae 800 o bobl yn cael eu gweld y flwyddyn. Nid yn unig mae'r ôl-groniad wedi'i glirio ond mae'r capasiti wedi cael ei gynyddu'n sylweddol trwy ddefnyddio'r gwasanaeth digidol.

 

 

 

  • Naw mis ar ôl gweithredu'r ffyrdd newydd o weithio cafodd y rhestr aros ei dileu.
  • Roedd cleifion yn gallu ymuno'n uniongyrchol â'r gwasanaeth o brofion ar-lein a wnaed mewn mannau eraill, gan symud i wasanaeth rhagweithiol yn hytrach nag aros am gyswllt neu atgyfeiriadau.
  • Roedd cleifion yn gallu gofyn am wasanaethau 24/7 drwy Microsoft Forms, gyda rhai ceisiadau'n dod am 3am, gan ddarparu gwasanaeth llawer mwy cyfleus ac ymatebol.
  • Adborth cadarnhaol gan gleifion
  • Amser llawer cyflymach rhwng y cyswllt cyntaf a chasglu meddyginiaeth (cyn lleied â 5 diwrnod)
  • Trosglwyddodd cleifion wybodaeth neges destun rhwng partneriaid rhywiol, gan brofi eu gwerth canfyddedig o'r gwasanaeth a chyrraedd cynulleidfa ehangach o risg uchel
  • Profion sylfaenol wedi lleihau'r amser y mae cleifion yn ei dreulio mewn clinig
  • Llai o angen i gleifion deithio i'r clinig yn sgil ymgyngoriadau ffôn a fideo
  • Tystiolaeth anecdotaidd o fwy o hyder wrth ragnodi PrEP, gan alluogi cleifion i gyrchu PrEP ble bynnag a phryd bynnag mae'n gyfleus, gan gynnwys y rhai nad ydynt yn gallu defnyddio gwasanaethau ar-lein
  • Roedd gweithredu'r prosiect yn gyflym a'r defnydd o dechnoleg yn galluogi sawl iteriad o weithredu, arsylwi, ymchwil a chynllunio sy'n caniatáu gwella gwasanaethau.

Doedd dim diagnosis o HIV na chlefyd arennol difrifol ym mhoblogaeth y cleifion oedd wedi defnyddio'r gwasanaeth newydd, sy'n awgrymu bod y gwasanaeth yn parhau i fod yn ddiogel.

 

Roedd y gwerthusiad yn profi:

  • Yr oedd y gwasanaeth yn ddiogel ac effeithiol
  • Y gellid recriwtio cleifion yn rhagweithiol, gan gynyddu allgymorth 
  • Y gostyngodd y gwasanaeth amseroedd aros a chynyddodd nifer y cleifion a gafodd eu gweld
  • Yr oedd angen gweinyddu ac amser sefydlu, ond darparwyd effeithlonrwydd clinigol
  • Bod 196 o bobl wedi osgoi apwyntiadau wyneb yn wyneb mewn 6 mis – doedd dim angen cyswllt clinigol ar 38 ohonynt