Asesiad Poen Deallusrwydd Artiffisial PainChek
Cefndir y Prosiect
Mae asesiad poen cywir mewn rhai unigolion yn cyflwyno heriau i staff gofal iechyd. Mae'r rhan fwyaf ohonon ni'n dibynnu ar y ffaith ein bod ni'n gallu mynegi ein poen a cheisio lleddfwyr poen priodol. Fodd bynnag, i gleifion a phreswylwyr na allant fynegi eu hunain yn hawdd neu y mae eu gallu i gyfathrebu ar lafar yn amrywio, mae hyn yn broblematig. Mae offer asesu ar bapur wedi bodoli ers tro ond yn dibynnu ar hyfforddiant a dehongliad cywir gan y darparwr gofal iechyd. Mae angen amser ychwanegol hefyd i gofnodi'r canfyddiadau mewn cofnodion gofal iechyd.
Mae PainChek yn gynnyrch ap sy’n ddefnyddio Deallusrwydd Artiffisial i ddehongli'r canlyniadau ac, yn ychwanegol at hynny, mae’r gallu ganddo i drosglwyddo canlyniadau'n uniongyrchol i gofnodion iechyd electronig cleifion lle mae rheini ar gael.
Nodau’r Prosiect
I Ddangos.
Canlyniad cleifion / gwelliannau cartref gofal
- Meddyginiaeth
- Lefelau poen
- Ansawdd metrigau gofal (NICE)
- Mesurau ychwanegol (yn dibynnu ar gapasiti staff)
Y bydd staff yn ei ddefnyddio
- Heriau Graddfa Boen Abbey
- Hawdd ei ddefnyddio gyda PainChek
- Potensial clinigol y ddyfais
- Asesiadau cynnydd poen wedi'u dogfennu
Arbedion cost i gartrefi gofal/GIG
- Gostyngiad mewn meddyginiaethau atal poen
- Gostyngiad yn y niferoedd sy’n cael eu derbyn i ysbytai
- Gostyngiad mewn apwyntiadau cleifion allanol
- Amser staff/ymgysylltiad staff â chleifion
- Llai o wastraff meddyginiaeth?
- All Wales
- Aneurin Bevan University Health Board
PainChek – Asesiad Poen Deallus
Canolfan Gwyddorau Bywyd Cymru
Rhaglen Technoleg Gynorthwyol Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol Gwent