ADSLl yn Cael ei Gyflwyno o Bell ar gyfer Anhwylder Straen Wedi Trawma mewn Cyn-filwyr Milwrol
Mae anhwylder straen wedi trawma yn gyflwr seiciatrig cyffredin ymhlith milwyr sy’n gwasanaethu ar hyn o bryd a chyn-bersonél milwrol ar draws y byd, gan greu her iechyd cyhoeddus sylweddol. Mae cyfraddau achosion yn amrywio rhwng cenhedloedd gyda chyfraddau o 20 i 30% wedi’u cofnodi mewn milwyr yr Unol Daleithiau sy’n dychwelyd o wahanol wrthdaro dros y 60 mlynedd diwethaf, 6% i 17% yn y DU, 5% yng Nghanada, a 3% yn yr Iseldiroedd.
Dros y tri degawd diwethaf bu cryn fuddsoddiad mewn modelau triniaeth newydd a’u gwerthuso, gan arwain at ddatblygiadau wrth drin anhwylder straen wedi trawma mewn poblogaethau sifil a milwrol. Mae canllawiau ymarfer clinigol rhyngwladol yn argymell therapïau seicolegol sy'n canolbwyntio ar drawma ar ffurf Ailbrosesu a Dadsensiteiddio Symudiad Llygaid (ADSLl), a Therapi Ymddygiad Gwybyddol unigol gyda ffocws ar drawma (CBT-TF) fel triniaethau llinell gyntaf ar gyfer anhwylder straen wedi trawma.
Ar hyn o bryd yn y DU, mae canllawiau anhwylder straen wedi trawma NICEhefyd yn argymell therapïau seicolegol sy’n canolbwyntio ar drawma fel llinell gyntaf o therapi, ond nid ADSLl ar gyfer trawma sy'n gysylltiedig ag ymladd oherwydd y sylfaen dystiolaeth bresennol. Er gwaethaf yr argymhellion hyn, mae cyn-filwyr yn parhau i gael cynnig ADSLl ar gyfer anhwylder straen wedi trawma sy'n gysylltiedig ag ymladd.
Nodau’r Prosiect
Prif nod y prosiect ymchwil yw ateb y cwestiynau ymchwil canlynol a phenderfynu a oes gan ADSLl a gyflwynir o bell y potensial i leihau symptomau straen trawmatig ymhlith cyn-filwyr milwrol Prydain sydd ag anhwylder straen wedi trawma sy'n gysylltiedig ag ymladd.
1. Ar gyfer cyn-filwyr milwrol Prydain sydd ag anhwylder straen wedi trawma sy'n gysylltiedig ag ymladd, a yw ADSLl o bell yn lleihau symptomau i raddau llawer mwy na bod ar y rhestr aros?
2. Ar gyfer cyn-filwyr milwrol Prydain sydd ag anhwylder straen wedi trawma sy'n gysylltiedig ag ymladd, a yw ADSLl o bell yn lleihau symptomau i raddau tebyg i ADSLl a gyflwynir wyneb yn wyneb?
3. Ar gyfer cyn-filwyr milwrol Prydain sydd ag anhwylder straen wedi trawma sy'n gysylltiedig ag ymladd, beth yw effaith ADSLl a gyflwynir o bell ar ansawdd bywyd, gweithredu, symptomau iselder, symptomau gorbryder, insomnia, alcohol a defnyddio sylweddau anghyfreithlon, a beth yw’r gefnogaeth gymdeithasol ganfyddedig?
4. A yw darparu ADSLl o bell yn dderbyniol i gyn-filwyr milwrol Prydain sydd ag anhwylder straen wedi trawma sy'n gysylltiedig ag ymladd a'r rhai sy'n cynnal yr ymyrraeth?
5. Beth yw'r graddau effaith ADSLl a gyflwynir o bell?
6. Pa ffactorau all effeithio ar effeithiolrwydd a chyflwyno ADSLl yn llwyddiannus o bell ar gyfer anhwylder straen wedi trawma sy'n gysylltiedig ag ymladd, os dangosir ei fod yn effeithiol?
6. A all archwilio uniondeb protocol yr astudiaeth, cyfradd recriwtio ar gyfer treialon, mesurau canlyniadau hunanadrodd, mesurau canlyniadau a weinyddir gan glinigwyr, trefniadau ar hap, uniondeb y driniaeth a derbynadwyedd yn gwella'r broses o wneud penderfyniadau wrth gynllunio treial diffiniol Cam III?
7. A yw hap-dreial wedi’i reoli diffiniol Cam III wedi’i nodi ac yn ymarferol?
Yr Her
Ym mis Mawrth 2020, ar ddechrau pandemig COVID-19 yn y DU, profodd GIG Cymru newidiadau ar unwaith i'r ffordd yr oedd yn gweithredu ac yn darparu gofal i gleifion. Cafodd Gwasanaeth Ymgyngoriadau Fideo newydd ei ddatblygu ar gyfer GIG Cymru a'i gyflwyno gan TEC Cymru (Gofal Trwy Dechnoleg), ar draws yr holl wasanaethau gofal sylfaenol, eilaidd a chymunedol yng Nghymru. Mae TEC Cymru wedi bod yn gwerthuso'n gadarn y gwasanaeth Ymgyngoriadau Fideo ledled Cymru, ac hyd yma mae wedi casglu ystod eang o ddata dulliau cymysg, gan gynnwys mwy na 45,000 o gleifion a chlinigwyr GIG Cymru sy'n defnyddio'r gwasanaeth Ymgyngoriadau Fideo.
Yr ateb
Mae data TEC Cymru ar gyfer cleifion ag anhwylder straen wedi trawma a'u clinigwyr (n=474 / 2.06% o'r set ddata genedlaethol) hefyd yn awgrymu bod anhwylder straen wedi trawma ac ymgyngoriadau fideo yn ffit da. Ar y cyfan, dywedodd cyfanswm o 96% o gleifion ag anhwylder straen wedi trawma y byddent yn defnyddio ymgynghoriad fideo eto. Er gwaethaf defnydd eang, mae absenoldeb tystiolaeth hap-dreial wedi’i reoli ar gyfer effeithiolrwydd ADSLl a darparu ADSLl o bell mewn cyn-filwyr yn bryder. Mae'n hanfodol, felly, bod ADSLl a chyflwyno ADSLl o bell yn cael ei brofi yn y boblogaeth hon mewn dyluniadau methodolegol trylwyr ac mae'r astudiaeth arfaethedig yn cynrychioli cam cyntaf i gyflawni hyn. Nod y canlyniadau ymchwil yw penderfynu a oes gan ADSLl a gyflwynir o bell y potensial i leihau symptomau straen trawmatig ymhlith cyn-filwyr milwrol Prydain sydd ag anhwylder straen wedi trawma sy'n gysylltiedig ag ymladd.
Bydd yr hap-dreial wedi’i reoli yn recriwtio 60 o gyn-filwyr i driniaeth ADSLl wyneb yn wyneb neu ar fideo ar unwaith, neu grŵp rhestr aros am driniaeth yn ddiweddarach. Bydd yr hap-dreial wedi’i reoli yn para tua 32 wythnos (tua 7 mis a hanner).
- All Health Boards
Prifysgol Caerdydd
Chwefror 2022
CAPS-5 Hyfforddiant –Ym mis Chwefror 2022, cymerodd y cynorthwywyr ymchwil sydd ynghlwm wrth yr astudiaeth ran mewn hyfforddiant ar gyfer Graddfa Anhwylder Straen Wedi Trawma a Weinyddir gan Glinigwyr ar gyfer DSM5 (CAPS-5). Mae hyn wedi eu paratoi ar gyfer cipio data yn yr astudiaeth.
Mawrth 2022
Dylunio’r arolwg - Ym mis Mawrth 2022, mae deunyddiau arolwg wrthi’n cael eu hychwanegu at RedCap, adeiladwr/rheolwr cronfeydd data ac arolygon. Ar ôl hynny, bydd offerynnau'n cael eu dosbarthu i'r rhai sy'n cymryd rhan.
Mawrth 2022
Cymeradwyaeth foesol – Ym mis Mawrth 2022, cymeradwyodd y Pwyllgor Moeseg yr astudiaeth ar y sail bod cwpl o newidiadau yn cael eu gwneud i'r daflen wybodaeth i’r rheiny sy'n cymryd rhan.
Mehefin 2022
Recriwtio– os aiff popeth yn ôl y bwriad gyda'r adrannau Ymchwil a Datblygu perthnasol, amcangyfrifir y bydd recriwtio yn digwydd ym mis Mehefin 2022.