Adsefydlu Rhithwir Ysgyfaint (VIPAR)
|
- Hywel Dda University Health Board
Partneriaid: Comisiwn Bevan, Comcen, Polycom
Cyllid: Grŵp Gweithredu Iechyd Anadlol, Hywel Dda BIP (Bwrdd Iechyd y Brifysgol) |
1. Chwefror 2017
Cytunwyd ar gyllid gan RHIG ar gyfer offer
2. Mai-Medi 2017
Cynllunio’r prosiect a gosod a phrofi offer
3. Medi -Tachwedd 2017
Cwrs Adsefydlu’r Ysgyfaint cyntaf, x2 yr wythnos am 7 wythnos (1 hyb Caerfyrddin, 1 lloeren Tregaron)
4. Ionawr - Mawrth 2018
Ail gwrs Adsefydlu’r Ysgyfaint, x2 yr wythnos am 7 wythnos (1 hyb Caerfyrddin, 1 lloeren Llanelli)
5. Mawrth-Ebrill 2018
Casglu Mesurau Canlyniad yn ôl Claf a Mesurau Profiad yn ôl Claf a thrafodaeth grŵp (dadansoddiad thematig)
6. Ebrill-2018
Holiaduron staff a thrafodaeth grŵp (dadansoddiad thematig
7.
Cofnod Ysgrifenedig Cynnar
8. Tachwedd 2019
Canlyniadau 1 flwyddyn (cymharu data mynediad i ysbytai 1 flwyddyn cyn hyd 1 flwyddyn ar ôl VIAPR)
9. Rhagfyr 2019
Diwedd y Prosiect a Chofnod Ysgrifenedig
Nodau prawf-cysyniad oedd i raglen VIPAR:
- Gwirio diogelwch y cyfranogwyr - yn enwedig yn y safleoedd "lloeren".
- Profi dichonoldeb (derbynadwyedd, defnydd, a chyfraddau cwblhau) pob cwrs gyda'r bwriad o "gynyddu" y rhaglen.
- Gwerthuso effeithiolrwydd tymor byr a chanolig drwy fesur Mesurau Canlyniad yn ôl Claf safonol gan bawb oedd yn cymryd rhan
- Amcangyfrif arbedion teithio ac amgylcheddol
- Amcangyfrif cost-effeithiolrwydd
- Adrodd am Fesurau Profiad yn ôl Claf a gwerthusiadau staff, yn enwedig archwilio'r hyn oedd yn rhwystro ac yn hwyluso cynyddu’r gwasanaeth.
- Mae VIPAR yn ddiogel, yn ymarferol, yn lleihau anghydraddoldeb mewn gofal, yn darparu gofal yn nes at y cartref, yn arbed effaith amgylcheddol fawr, yn effeithiol ac yn gost-effeithiol.
- Mae cyd-gynhyrchu gan gleifion yn hollbwysig wrth ddylunio'r model.
- Mae angen i staff cefnogi a chyfrannu’n llawn i leddfu ofnau a chynhyrchu atebion ymarferol.
- Rhaid cadw technoleg mor syml â phosibl er mwyn sicrhau llwyddiant.
- Dyfarnwyd £100K o gyllid cyson i fuddsoddi yn VIPAR a phrosiectau adfer eraill yn y gymuned gan y BI
Dangoswyd model diogel, effeithiol, a mwy cost-effeithlon o gynyddu nifer cleifion GIG (Gwasanaeth Iechyd Gwladol) Cymru oedd yn mynychu cyrsiau Adsefydlu’r Ysgyfaint. Dangoswyd gwelliannau ystadegol arwyddocaol a chlinigol bwysig mewn goddefgarwch ymarfer corff, ansawdd bywyd o leiaf cystal ag Adsefydlu Ysgyfaint arferol gyda haneru derbyniadau i'r ysbyty. Roedd buddion ychwanegol yn cynnwys arbed dros 6400 milltir o deithio mewn dim ond 2 raglen!
- Tîm y Mis Hywel Dda 2018
- Enillydd Cydweithrediad GIG gyda Diwydiant, Mediwales 2018
- Rhestr Hir RCP UK Innovations in Health 2018
- Cyflwyniad Poster: Uwchgynhadledd Un Iechyd, Caeredin (SIB) 2018
- Gwobr Gyntaf Arloesi Digidol, Sefydliad Rhyngwladol ar gyfer Gofal Integredig (San Sebastian) 2019
- Gwobr GIG Cymru am Wella iechyd a Lles a Lleihau anghydraddoldebau 2019
Gweler hefyd
www.youtube.com/watch?v=cGId4h_aMBY (profiad cleifion)
Health Psychol Behav Med. 2021;9(1):527 (barn cleifion ar restr aros AY)
BMJ Open Resp Res 2021;8:e000800 (barn cleifion)
Int J Chron Obstruct Pulm Dis. 2019;14:775 (canlyniadau clinigol)