Cyflwyniad
Mae Hyb Gwyddorau Bywyd Cymru (LSHW) wedi ymrwymo i ddiogelu data personol. Mae’r Hysbysiad Preifatrwydd hwn yn egluro’r canlynol:
- Pwy ydym ni?
- Pa wybodaeth rydym yn ei chasglu?
- Sut yr ydym yn casglu eich gwybodaeth, pam mae ei hangen arnom a sut rydym yn ei defnyddio
- Pa sail gyfreithiol sydd gennym i brosesu eich data personol?
- Pa bryd fyddwn ni’n rhannu data personol?
- Sut yr ydym yn storio ac yn prosesu data personol
- Sut ydym ni’n diogelu data personol
- Am ba mor hir ydym ni’n cadw data personol?
- Eich hawliau o ran data personol gan gynnwys eich hawliau i dynnu cydsyniad yn ôl
- Y defnydd o broses gwneud penderfyniadau awtomataidd a phroffilio
- Sut i gysylltu â ni gan gynnwys sut i gwyno i awdurdod goruchwylio
- Y defnydd o gwcis a thechnoleg arall
- Dolenni at wefannau eraill a chysylltiad â thrydydd partïon
- Sut a phryd yr ydym yn adolygu ein hysbysiad preifatrwydd
Rydym yn argymell eich bod yn darllen yr hysbysiad preifatrwydd hwn yn ofalus. Cysylltwch â ni ag unrhyw gwestiynau neu bryderon ynglŷn â’n harferion preifatrwydd. Mae ein manylion cyswllt ar ein gwefan ac maent hefyd yn yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn.
Pwy ydym ni?
Mae LSHW yn Gwmni Cyfyngedig (08719645) sydd ym mherchnogaeth lwyr Llywodraeth Cymru. Rydym yn gweithredu fel Rheolydd Data ac fel Prosesydd Data yn yr amgylchiadau canlynol:
Rheolydd Data – mae data a gesglir yn ein galluogi ni i redeg busnes arferol fel Hyb Gwyddorau Bywyd Cymru
Prosesydd Data – data a gesglir fel rhan o’r Rhaglen Cyflymu lle mae Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO) wedi’i dynodi fel y Rheolydd Data.
Ein Swyddog Diogelu Data yw’r Rheolwr Rhaglenni a Chydymffurfiaeth, ac mae modd cysylltu naill ai dros y ffôn, ebost neu mewn ysgrifen
3 Sgwar y Cynulliad, Bae Caerdydd, CF10 4PL
02920467030
Pa Wybodaeth rydym yn ei chasglu?
Pan fyddwn yn sôn am wybodaeth bersonol, rydym yn cyfeirio at yr wybodaeth honno’n unig sy’n galluogi i unigolion gael eu hadnabod.
Mae ein gweithgarwch ymgysylltu ledled Cymru, y DU ac yn rhyngwladol yn hanfodol i’n llwyddiant. Rydym yn casglu ac yn prosesu gwybodaeth â phartneriaid strategol allweddol ar draws y sector iechyd a gofal, y diwydiant gwyddorau bywyd, academia, gwasanaethau proffesiynol a chynlluniau a phrosiectau eraill a ariennir. Mae hyn yn cynnwys y categorïau gwybodaeth canlynol:
- Data adnabod sy’n cynnwys eich enw, dyddiad geni, rhif pasbort, rhif trwydded yrru â llun, buddiannau busnes a rhywedd
- Data ariannol gan gynnwys cyfeiriad bilio, manylion y cyfrif, manylion deiliad cyfrif banc a manylion cerdyn banc
- Manylion cyswllt (cyfeiriad e-bost, rhif ffôn)
I roi hyn mewn cyd-destun, mae’n cynnwys gwybodaeth bersonol a gesglir o ganlyniad i:
- Data a gedwir i redeg y Rhaglen Cyflymu
- Data a gedwir i redeg y Rhaglen Ecosystem Iechyd Digidol Cymru
- Data a gyflwynir fel rhan o’r Rhaglen Datblygu Bidiau
- Os byddwch yn cysylltu â ni
- Os ydych chi wedi bod yn bresennol mewn digwyddiad a drefnwyd gennym ni naill ai’n allanol neu yn ein hadeiladau ni
- Os ydych chi’n rhanddeiliad neu’n aelod o grŵp diddordeb arbennig
- Os ydych chi’n gwneud cais am swydd â ni
- Os ydych chi’n cyflenwi nwyddau neu wasanaethau i ni
- Os ydych chi’n trefnu digwyddiad neu gyfarfod yn Hyb Gwyddorau Bywyd Cymru
- Os ydych chi wedi llofnodi cytundeb i ddefnyddio gofod swyddfa yn Hyb Gwyddorau Bywyd Cymru
- Pob ffurf o gyfathrebu â ni, gan gynnwys e-bost, cyfathrebu llafar a dros y ffôn
Sut yr ydym yn casglu eich gwybodaeth, pam mae ei hangen arnom a sut rydym yn ei defnyddio
Pan fyddwch chi’n cysylltu â ni ynglŷn â’r gwaith rydym yn ei wneud, byddwn yn trafod eich data’n ofalus iawn ac rydym yn sensitif i’r angen i drafod pob data’n gyfreithlon, yn deg ac yn dryloyw.
Mae’r dull casglu’n amrywio ond mae’n cynnwys ond heb ei gyfyngu i:
- Gwybodaeth a gasglwyd drwy e-bost neu ohebiaeth ysgrifenedig;
- Gwybodaeth a gasglwyd drwy gysylltiad dros y ffôn;
- Gwybodaeth a gasglwyd ar lafar neu’n ysgrifenedig mewn neu mewn cysylltiad â digwyddiadau a gynhaliwyd gan Hyb Gwyddorau Bywyd Cymru neu eraill; a
- Gwybodaeth a gasglwyd mewn cysylltiad â grwpiau diddordeb arbennig, rhaglenni a phrosiectau;
- Gwybodaeth a gasglwyd drwy gyfryngau cymdeithasol e.e. twitter a LinkedIn
- Gwybodaeth a gyflenwyd gan drydydd parti, e.e. Tŷ’r Cwmnïau, Credit Safe fel rhan o’n gwiriadau diwydrwydd dyladwy.
Mae cymorth busnes a noddir gan LSHW yn golygu casglu a chadw gwybodaeth partneriaid Cyflymu. Mae’r gofyniad i gasglu a chadw data o’r fath yn cael ei lywodraethu o dan drefniadau contract Llywodraeth Cymru a WEFO. Yn yr amgylchiadau hyn rydym yn gweithredu fel prosesyddion yr wybodaeth, a byddwn yn defnyddio’r wybodaeth yn unol â chyfarwyddiadau’r partïon yn unig.
Dylech hefyd fod yn ymwybodol o’n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth, ein cylch gwaith i ddarparu gwybodaeth i gwrdd â gofynion archwilio mewnol ac allanol a’n rhwymedigaethau cyfreithiol (e.e. atal twyll).
Y defnydd o brosesau gwneud penderfyniadau Awtomataidd a Phroffilio
Fel rhan o’i weithgarwch busnes o ddydd i ddydd, mae LSHW yn defnyddio prosesau gwneud penderfyniadau awtomataidd a phroffilio i gyflawni ei rwymedigaethau cyfreithiol. Mae hyn yn cynnwys y gwiriadau sy’n ofynnol o dan Reoliadau Gwyngalchu Arian, Ariannu Terfysgaeth a Throsglwyddo Cronfeydd (Gwybodaeth am y Talwr) 2017 (y “Rheoliadau Newydd”). Gofynnir am eich cydsyniad bob amser cyn y gwneir y gwiriadau hyn.
Nid yw LSHW yn proffilio i ddibenion marchnata.
Defnyddio Cwcis a thechnolegau eraill
Mae’r Hysbysiad hwn yn egluro sut a pham rydym yn defnyddio cwcis ar wefan LSHW ac mae’n cynnig adnoddau a fydd yn eich galluogi i wneud penderfyniad ar sail gwybodaeth o ran derbyn, gwrthod neu ddileu unrhyw gwcis a ddefnyddir gennym.
Drwy ddefnyddio ein gwefan, rydych yn cydsynio i’n cwcis, felly rydym yn argymell eich bod yn darllen yr wybodaeth isod. Gall y polisi cwcis hwn newid ar unrhyw adeg, felly fe’ch cynghorir i’w wirio’n rheolaidd.
Mae cwci yn ffeil fechan o lythrennau a rhifau sy’n aml yn cynnwys dyfais adnabod ddienw, unigryw. Mae hyn yn golygu y gellir ei ddefnyddio i’ch adnabod heb ddatgelu eich gwybodaeth bersonol. Pan fyddwch yn ymweld â gwefan, mae’n gofyn am ganiatâd i storio cwci yn yr adran cwcis ar eich gyriant caled. Mae cwcis yn gyffredin ar y rhyngrwyd i wneud i wefannau weithio, i wneud iddynt weithio’n fwy effeithlon, neu i roi gwybodaeth i berchennog y safle am eich defnydd o’r safle neu drydydd partïon eraill. Er enghraifft, os byddwch yn ychwanegu eitemau at fasged siopa, mae cwci’n galluogi’r wefan i gofio pa eitemau rydych yn eu prynu, neu os byddwch yn mewngofnodi i wefan, gall cwci eich adnabod yn ddiweddarach fel na fydd yn rhaid i chi fewngofnodi â’ch cyfrinair eto.
Sut yr ydym yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis i wella sut mae ein gwefan yn gweithio. Rydym hefyd yn defnyddio cwcis trydydd parti sy’n cael eu gosod gan Google Analytics i adolygu sut mae ein safle’n gweithio, a gan Google AdWords i wella ein hymdrechion marchnata ar-lein.
Cwcis Trydydd Parti
Mae cwci trydydd parti yn un sy’n gysylltiedig â pharth neu wefan heblaw’r un rydych yn ymweld â hi. Er enghraifft, ar y safle hwn, rydym yn defnyddio cwcis trydydd parti a grëwyd gan Google i alluogi dadansoddeg gwefannau, ond gan nad yw ein gwefan ar barth Google, mae hyn yn golygu bod eu cwcis yn “gwcis trydydd parti”. Bydd cwci Google Analytics yn adnabod ac yn cyfrif nifer y bobl sy’n ymweld â’n safle, yn ogystal â rhoi gwybodaeth arall, fel am ba hyd mae ymwelwyr yn aros, i ble maent yn mynd ar ôl gadael ein safle, a pha dudalennau sy’n cael y nifer fwyaf o ymwelwyr. Ni allwn reoli’n uniongyrchol sut mae cwcis Google yn ymddwyn.
Pa sail gyfreithiol sydd gennym i brosesu eich data personol?
Fel rhan o’n busnes arferol rydym yn casglu data penodol ar gyfer buddiant contract a dilys i ddarparu cymorth priodol i chi.
Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth bersonol a gesglir gennym i’r dibenion canlynol:
- I ateb unrhyw ymholiadau cyffredinol a wneir gennych ac i roi gwybodaeth i chi ynglŷn â’r gwasanaethau a ddarperir gennym.
- I gyflawni ar unrhyw un o’n rhaglenni a gwasanaethau eraill a gynigir gennym
- I wneud taliad i chi, gan gynnwys trosglwyddo cronfeydd ar ôl cwblhau trafodiad am wasanaethau rydych wedi’u darparu i ni
- I reoli ein perthynas â chi
- I gydymffurfio â’n rhwymedigaethau cyfreithiol a rheoliadol
- I gynnal gwiriadau credyd ac unrhyw wiriadau eraill y barnwn sydd eu hangen i gadarnhau pwy ydych chi
- I ddelio ag unrhyw adborth gan gleientiaid neu gwynion sydd gennych
- I weinyddu, datblygu a gwella ein busnes
- I warchod ein busnes e.e. pe bai angen cymryd camau i adennill dyledion neu amddiffyn hawliad cyfreithiol
- I wneud awgrymiadau ac argymhellion i chi am y gwasanaethau a ddarperir gennym a all fod o ddiddordeb i chi
- I’ch gwahodd i unrhyw ddigwyddiadau lletygarwch neu rwydweithio a gynhelir gennym neu y gallwn fod yn rhan ohonynt ac a all fod o ddiddordeb i chi
- I hwyluso cyflwyno partner i gysylltiad busnes lle mae’r partner angen gwasanaethau a ddarperir gan y cysylltiad busnes perthnasol
Rhaid bod gennym reswm cyfreithiol i brosesu eich gwybodaeth bersonol. Gan amlaf byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol yn yr amgylchiadau canlynol:
- Lle bydd angen i ni redeg y rhaglen neu gyflawni’r contract ar gyfer gwasanaethau rydym ar fin ei lofnodi neu wedi ei lofnodi â chi
- Lle bydd angen er mwyn ein buddiannau dilys (neu rai trydydd parti) ac nad yw eich buddiannau a’ch hawliau sylfaenol chi’n rhagori ar y buddiannau hynny
- Lle bydd angen i ni gydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol neu reoleiddiol
- Lle rydych wedi rhoi eich cydsyniad i brosesu eich gwybodaeth bersonol
Byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol i’r dibenion y cafodd ei chasglu ar eu cyfer yn unig, ond bai ei bod yn rhesymol i ni gredu bod angen i ni ei defnyddio am reswm arall a bod y rheswm hwnnw’n gydnaws â’r diben gwreiddiol. Os hoffech gael eglurhad o’r modd y mae’r prosesu i’r diben newydd yn gydnaws â’r diben gwreiddiol, cysylltwch â ni.
Pa bryd fyddwn ni’n rhannu data personol?
Datgelu Gwybodaeth i ddibenion cyfreithiol neu reoleiddiol
Efallai y bydd angen i ni ddatgelu eich gwybodaeth i drydydd parti fel rhan o waith rheoli rhaglen sy’n cael ei wneud a gofynion archwilio.
Hefyd, fel rhan o’n cylch gwaith i wneud gwiriadau diwydrwydd dyladwy efallai y bydd yn rhaid i ni hefyd ryddhau gwybodaeth i wneud gwiriadau llywodraethu ar gyfer gofynion penodol, rhaglenni, partïon (neu brosiectau) eraill. Byddwn yn ymgymryd â’r broses hon mewn modd cyfreithlon, a bydd yn gymesur a diogel.
Mae trydydd partïon yn cynnwys:
- Cynghorwyr ac ymgynghorwyr allanol sydd â chysylltiad uniongyrchol â chyflawni’r rhaglen/prosiect (noder fod pob cynghorydd/ymgynghorydd wedi ymrwymo i ofynion cyfrinachedd yn eu contractau).
- Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru a’r Comisiwn Ewropeaidd;
- Llywodraeth Cymru; a
- Sefydliadau sy’n darparu cyllid a / neu gymorth i arloesi
- Ein cynghorwyr proffesiynol e.e. cyfreithwyr, bancwyr, cyfrifyddion
- Darparwyr gwasanaethau trydydd parti sy’n darparu gwasanaethau gweinyddol a chymorth i ni
- CThEM
Byddwn yn sicrhau os bydd angen rhannu gwybodaeth y bydd yn cael ei rhannu’n ddiogel, a byddwch yn cael eich hysbysu ein bod wedi ei rhannu, gyda phwy rydym wedi’i rhannu a sut yr ydym wedi’i rhannu.
Ym mhle ydym ni’n storio ac yn prosesu data personol?
Mae data LSHW yn cael ei storio yn Microsoft 365, Mailchimp, Cloudbooking, pecyn cymorth ariannol Xero a meddalwedd rheoli prosiectau Wrike, sydd i gyd yn cydymffurfio â chyfarwyddeb yr Undeb Ewropeaidd ar storio data o fewn aelod-wladwriaethau’r EEA.
Y system gronfa ddata a ddefnyddir ar gyfer y rhaglen Cyflymu yw Smartsheet. Mae Smartsheet wedi’i leoli yn yr Unol Daleithiau felly bydd y data a roddir gennych chi’n cael ei drosglwyddo y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd. Mae gwybodaeth electronig yn cael ei chadw mewn cronfa ddata Cyflymu ddiogel a phwrpasol sy’n cydymffurfio â Privacy Shield Framework yr UE-UDA a Privacy Shield Framework y Swistir-UDA. Gellir darllen polisi preifatrwydd Smartsheet yma.
Defnyddir Huddle gan LSHW fel system storio dogfennau ar gyfer y rhaglen CYFLYMU gyda mynediad i’r system ar gyfer staff sydd wedi’u secondio ar y Rhaglen. Mae Huddle yn cydymffurfio’n llawn â DPA 2018. Gellir darllen polisi preifatrwydd Huddle yma.
Defnyddir system Mailchimp i gofnodi manylion cyswllt partneriaid LSHW, ac mae’n cydymffurfio’n llawn â DPA 2018. Gellir darllen y polisi preifatrwydd yma.Defnyddir Cloudbooking i archebu ystafelloedd i’w defnyddio gan bartneriaid a chleientiaid yn allanol drwy’r rhyngrwyd, mae’n cydymffurfio’n llawn â DPA 2018. Gellir darllen y polisi preifatrwydd yma.
Defnyddir system ariannol Xero i dalu cyflenwyr a chwsmeriaid ac mae’n cydymffurfio’n llawn â DPA 2018. Gellir darllen y polisi preifatrwydd yma.
Defnyddir system Wrike Project Management i reoli ein rhaglenni a’n prosiectau, ac mae’n cydymffurfio’n llawn â DPA 2018. Gellir darllen y polisi preifatrwydd yma.
Defnyddir Microsoft 365 i storio gwybodaeth ar gyfer swyddogaethau busnes arferol, mae mynediad ar delerau’r angen i wybod. Mae Microsoft 365 mae’n cydymffurfio’n llawn â DPA 2018. Gellir darllen y polisi preifatrwydd yma
Sut ydym ni’n diogelu data personol?
Mae gennym fesurau diogelwch priodol ar waith i atal eich gwybodaeth bersonol rhag cael ei cholli’n ddamweiniol, rhag cael ei gweld na’i defnyddio mewn modd anawdurdodedig neu ei defnyddio neu ei datgelu mewn ffordd arall.
I gyflawni hyn, rydym yn defnyddio technoleg ddiogel wedi’i hamgryptio i warchod yr holl wybodaeth bersonol sy’n cael ei storio gennym. Mae gennym bolisïau cyfoes sy’n cael eu hadolygu’n rheolaidd ar gyfer Diogelu Data, Polisi Cyfrineiriau, Diogelwch Gwybodaeth a Dilyniant Busnes (gan gynnwys Asesiadau Risg) i gynnal prosesau ein busnes ac i sicrhau bod yr holl staff yn ymwybodol o bwysigrwydd diogelwch data.
Caniateir mynediad at wybodaeth ar delerau yr angen i wybod.
Am ba mor hir ydym ni’n cadw data personol?
Nid ydym yn cadw ac yn prosesu data yn ddim hwy na gofyniad contract neu fusnes i wneud hynny neu am ba hyd bynnag y mae rhwymedigaeth arnom i gadw’r un wybodaeth o dan unrhyw ofyniad rheoleiddiol neu gyfreithiol. Pan ddaw’r gofyniad hwnnw i ben, bydd yr wybodaeth yn cael ei dileu oddi ar ein systemau.
Mae gwybodaeth sy’n cael ei dileu’n cael ei dileu’n unol â’r rheoliadau diogelwch cyfredol.
Ein diweddaru i gadw gwybodaeth yn gyfoes
Fel rhan o’n cyfrifoldeb i sicrhau bod yr wybodaeth rydym yn ei chadw amdanoch yn gyfoes, rydym yn dibynnu arnoch chi i’n diweddaru. Pan fydd unrhyw fanylion yn newid, rydym yn gofyn i chi ein hysbysu fel y gallwn ddiweddaru ein cofnodion.
Eich hawliau o ran data personol gan gynnwys eich hawliau i dynnu cydsyniad yn ôl
Fel gwrthrych data, mae gennych hawliau o ran eich data personol. Mae gennych hawl i weld eich gwybodaeth bersonol, i wrthwynebu prosesu eich gwybodaeth bersonol, i gywiro, dileu, cyfyngu a thrawsgludo eich gwybodaeth bersonol.
Mae gennych hefyd hawl i wneud Cais Gwrthrych Data. Fel rhan o’r broses hon byddwch yn gallu cadarnhau
- A yw eich data wedi’i brosesu neu beidio, ac os yw, pam
- Categorïau’r data personol dan sylw
- Ffynhonnell y data os nad ydych chi wedi rhoi’r data gwreiddiol
- I bwy all eich data gael ei ddatgelu, gan gynnwys y tu allan i’r EEA a’r mesurau diogelu sydd ynghlwm wrth drosglwyddiadau o’r fath
Rydym yn cadw’r hawl i gadarnhau eich hunaniaeth cyn rhyddhau gwybodaeth.
Ni fyddwn yn codi tâl am geisiadau o’r fath, oni bai bod y ceisiadau’n cael eu gwneud yn gyson ac y tybir eu bod yn ormodol. Byddwch yn ymateb i’ch cais o fewn 28 diwrnod.
Byddwn yn darparu ffurflen i chi ei llenwi ac a ddefnyddir gennym i sicrhau bod eich hawliau’n cael eu gweithredu’n llawn.
Os ydych chi wedi rhoi caniatâd i LSHW i brosesu unrhyw ran o’ch data, yna mae gennych hefyd yr hawl i dynnu’r cydsyniad hwnnw’n ôl oni bai bod rhwymedigaeth contract neu gyfreithiol arnom i gadw data. Bydd tynnu cydsyniad yn ôl hefyd yn arwain at dynnu cymorth gan wasanaethau neu raglen(ni) LSHW yr ydych wedi cofrestru â hwy. Mewn achosion lle nad oes angen i ni gadw data am resymau contract neu gyfreithiol, byddwn yn dileu’r data cyn gynted â phosibl ac o leiaf o fewn 28 diwrnod.
Dolenni at wefannau eraill a chysylltiad â thrydydd partïon
Mae gan LSHW gysylltiadau â safleoedd ac adnoddau allanol fel rhan o’n gweithgarwch busnes arferol. Mae hyn yn cynnwys storïau newyddion a dolenni at wefannau eraill fel rhan o’r wybodaeth sy’n cael ei rhannu ar ein gwefan (e.e. storïau am gynnyrch iechyd wedi’u hategu gan wybodaeth ffeithiol gan Lywodraeth Cymru). Gall defnydd o’r dolenni hynny alluogi trydydd partïon i gasglu neu rannu eich gwybodaeth bersonol. Gan nad oes gennym ni ddim rheolaeth dros sut mae trydydd partïon o’r fath yn casglu ac yn rhannu eich gwybodaeth, nid ydym yn derbyn dim cyfrifoldeb am y defnydd a wnânt o’ch gwybodaeth.
Sut i gysylltu â ni, gan gynnwys sut i gwyno i awdurdod goruchwylio
Gallwch gysylltu â Hyb Gwyddorau Bywyd Cymru mewn nifer o wahanol ffyrdd. Byddwn yn delio â’ch ymholiad yn yr un ffordd sut y byddwch yn dewis cysylltu â ni. Am ragor o wybodaeth am sut mae LSHW yn prosesu eich data, cysylltwch â ni’n ysgrifenedig yn:
Hyb Gwyddorau Bywyd Cymru
3 Assembly Square
Caerdydd, CF10 4PL
neu drwy e-bost yn hello@lshubwales.com.
Os ydych chi’n anhapus â sut y cafodd eich data personol ei brosesi ac yn dymuno cwyno, gallwch wneud hynny drwy un o’r dulliau a ddisgrifiwyd uchod. Byddwn yn delio â’ch cwyn mewn modd sensitif, ac yn gyfrinachol a byddwn yn ysgrifennu ag ymateb o fewn 10 niwrnod gwaith. Mae copi o’n polisi cwyno i’w weld yma.
Os nad ydych yn fodlon, mae gennych hawl i gysylltu’n uniongyrchol â’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO). Gellir cysylltu â’r Comisiynydd Gwybodaeth yn:
Information Commissioner’s Office
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Swydd Gaer
SK9 5AF
Byddem yn ddiolchgar pe baech yn gadael i ni geisio datrys y mater yn gyntaf cyn cysylltu â’r ICO.
Adolygu’r Hysbysiad Preifatrwydd
Rydym yn adolygu ein polisïau a’n gweithdrefnau’n rheolaidd, a byddwn yn cyhoeddi diweddariadau yn ein dogfennaeth ac ar ein gwefan. Adolygwyd a diwygiwyd yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn ddiwethaf ar 12 Rhagfyr 2018.