Mae arloeswyr Technoleg Iechyd yn gallu gwella eu cynlluniau a’u llwybr i’r farchnad gyda chymorth Technoleg Iechyd Cymru (HTW), y sefydliad annibynnol a chenedlaethol, sydd wedi cael ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru i arfarnu technolegau nad ydynt yn feddyginiaeth yng Nghymru.
Mae Gwasanaeth Cyngor Gwyddonol HTW yn wasanaeth ymgynghorol arbenigol, sy’n cynorthwyo arloeswyr yng Nghymru i ddatblygu tystiolaeth a dangos gwerth sy’n ateb anghenion comisiynwyr gofal, darparwyr gofal, cleifion a defnyddwyr gwasanaethau.
Mae hyn yn addas ar gyfer ystod o dechnolegau iechyd nad ydynt yn feddyginiaethau, fel dyfeisiau meddygol, diagnosteg neu weithdrefnau. Mae’n gallu nodi bylchau mewn tystiolaeth, helpu i dargedu gweithgareddau cynhyrchu tystiolaeth, arbed amser ac adnoddau, a chefnogi arloeswyr i gyflwyno cynnyrch i’r farchnad.
Mae’n rhaid talu ffi ar gyfer Gwasanaeth Cyngor Gwyddonol HTW, ac mae’n cael ei gynnig ar gyfraddau cystadleuol iawn, mewn ymdrech i wella iechyd pobl yng Nghymru. Mae’r gwasanaeth ar gael ar gyfer arloeswyr o bob maint; o unigolion a chwmnïau newydd, i adrannau ymchwil, SMEs a chwmnïau rhyngwladol mawr.
Mae datblygwyr technoleg a chwmnïau sy’n datblygu therapiwteg a diagnosteg sy’n gysylltiedig â COVID-19, yn gallu cael cyngor gwyddonol am ddim gan HTW.