Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, CF10 4PL

Yn dilyn newyddion Llywodraeth Cymru o 50m a chorff newydd i drawsnewid gwasanaethau iechyd a gofal digidol  yng Nghymru wnaeth EIDC cynnal digwyddiad yn edrych ar y planiau trawsnewid a'r adolygiadau gwahanol, gan ganolbwyntio ar yr Adolygiad Pensaernïaeth Ddigidol. Mae copi o'r adolygiad ar gael isod.

  • Cyhoeddiad gan Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol - Mae Vaughan Gething, wedi cyhoeddi cynlluniau i drawsnewid gwasanaethau iechyd a gofal digidol yng Nghymru.
  • Adolygiad Pensaernïaeth Ddigidol - Ffocws yr Adolygiad Pensaernïaeth Ddigidol, sef asesu i ba raddau mae Pensaernïaeth Ddigidol gyfredol GIG Cymru yn barod i gyflawni'r uchelgais a nodir yn ‘Cymru Iachach’, ac a yw'n raddadwy i ategu trawsnewid digidol ar draws iechyd a gofal cymdeithasol Cymru. Roedd yr adolygiad yn cynnwys adolygiadau technegol gyda NWIS a gweithdai a chyfweliadau â thros 100 o randdeiliaid allweddol o NWIS, pob Bwrdd Iechyd, a’r prifysgolion, ynghyd â thair “sesiwn ddwys” ym Myrddau Iechyd Aneurin Bevan a Chwm Taf, ac Ymddiriedolaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru. 

 

Bwciwch eich lle heddiw!
Digwyddiad Cynllun Trawsnewid Digidol
Bwciwch nawr trwy Eventbrite